Sut allai brynu tocynnau ar y Platfform Cyfnewid i Gefnogwyr?

 Mi fydd rhaid i chi greu cyfrif ar wefan y Platfform Cyfnewid i Gefnogwyr er mwyn prynu tocynnau.

Sut fydd y tocynnau yn cael eu danfon ataf?

Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio'r un rhif ffôn i brynu tocynnau ar y Platfform Cyfnewid ac y byddwch yn ei ddefnyddio i gofrestru gydag ap tocynnau Stadiwm Principality.

Pryd fydd y tocynnau yn cael eu danfon ataf?

Mi fydd tocynnau yn cael eu danfon atoch o leiaf 48 awr ar ôl i’r Undeb eu derbyn gan y gwerthwr.

Cysylltwch gydag URC os nad ydych wedi derbyn y tocynnau 24 awr cyn y gêm.

Mi fydd gan y gwerthwyr 48 awr i yrru’r tocyn yn ôl at URC ar ôl iddynt dderbyn y tocynnau.

 

A yw hi’n bosib i mi drosglwyddo tocynnau yn fy ap?

Gallwch drosglwyddo tocynnau ar ap Stadiwm Principality.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ; Official Supporter Exchange Buyers Guide  (1).pdf