Beth yw’r Platfform Cyfnewid i Gefnogwyr URC?
Mae hwn yn blatfform sydd yn eich galluogi chi
i werthu a chyfnewid tocynnau mewn ffordd ddiogel ac yn gwarantu cyfnewid tocynnau
rhwng cefnogwyr a chlybiau.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Pwy sy’n
gallu gwerthu tocynnau ar y Platfform Cyfnewid i Gefnogwyr?
Gall
unrhyw gwsmer sydd wedi prynu tocyn yn uniongyrchol trwy wefan tocynnau URC,
neu trwy ymweld â’n swyddfa docynnau, werthu ar y
Platfform Cyfnewid i Gefnogwyr.
Gall
clybiau hefyd werthu tocynnau ar y platfform.
Ni allwch
werthu tocynnau sydd wedi eu rhoi fel rhodd am ddim gan yr Undeb.
Sut y gallaf werthu tocynnau ar y
platfform cyfnewid i gefnogwyr?
Sut fydd
y tocynnau yn cael eu danfon ataf?
Mi fydd y
tocynnau yn cael eu danfon atoch yn ddigidol ar ap Tocynnau Stadiwm
Principality. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Pryd fydd
y tocynnau yn cael eu danfon ataf?
Wedi
iddynt eu gwerthu, mi fydd gan werthwyr 48 awr i ddanfon y tocynnau yn ôl at
URC.
Wedi i’r
tocynnau gael eu danfon yn ôl at URC, mi fyddant ar gael i’r prynwyr.
Cysylltwch gyag URC os nad ydych wedi derbyn eich tocynnau o fewn 48 awr i’r
gêm.
Gall pob cwsmer ddefnyddio'r Platfform Cyfnewid i Gefnogwyr?
Gall pob cwsmer sydd wedi prynu tocynnau yn
uniongyrchol gydag URC werthu tocynnau ar y Platfform Cyfnewid Cefnogwyr.
Ni allwch werthu tocynnau y derbynioch fel rhodd
gan yr Undeb ar y platfform.
Ni allwch werthu
tocynnau os yw’ch tocyn wedi cael ei drosglwyddo neu gael eu rhoi i chi fel
anrheg.
A yw hi’n
ddiogel i werthu tocynnau ar y Platfform Cyfnewid Cefnogwyr?
Mae’r
platfform cyfnewid i gefnogwyr yn blatfform swyddogol wedi ei wirio gan URC. Mi
fydd rhaid i bob gwerthwr cael ei wirio er mwyn creu cyfrif. Hefyd mi fydd yn
rhaid i bob gwerthwr gael ei wirio fel perchennog y tocyn er mwyn gwerthu ar y
platfform.