Pencampwriaeth Chwe
Gwlad Guinness Menywod 2026 - Gwybodaeth Tocynnau Hygyrch
Mae Mynediad i
Stadiwm Principality yn fwy cynwysedig gyda Cherdyn Mynediad
Rydym yn hapus i
gyhoeddi ein bod yn gweithio gyda Nimbus Disability, trwy ddefnyddio eu
technoleg Cerdyn Mynediad er mwyn sicrhau bod archebu tocynnau a mynediad i’r
stadiwm yn fwy cynhwysol i gefnogwyr sydd â gofynion hygyrchedd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Cliciwch yma am
gefnogaeth ar sut i wneud cais am gerdyn mynediad.
A fydd angen
Cerdyn Mynediad neu Gofrestriad Mynediad Stadiwm Principality arnaf i
brynu tocynnau hygyrch yn Stadiwm Principality i'r Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness Menywod
2026?
Ie, bydd angen
cerdyn mynediad i archebu tocynnau hygyrch i ddigwyddiadau yn Stadiwm
Principality. Gallwch wneud cais am gerdyn mynediad am ddim trwy glicio yma.
Sut gallaf
gofrestru am Gerdyn Mynediad Stadiwm Principality?
Cliciwch yma i gofrestru am cerdyn Mynediad.
Rwyf eisoes yn
ddeiliad cerdyn mynediad, sut alla i gysylltu fy ngherdyn?
I gysylltu'ch
cerdyn mynediad presennol, cliciwch yma. Sylwch mai dim ond cerdyn mynediad y byddwch yn gallu cysylltu. Ni ellir
defnyddio cofrestriadau mynediad a gyhoeddwyd gan leoliadau eraill neu
ddarparwyr tocynnau.
I gysylltu eich
Cerdyn Mynediad bydd angen eich rhif cofrestru arnoch. Mae’r rhif yma fel arfer
yn 6 digid a gellir dod o hyd iddo yn eich e-bost cadarnhaol. Os ydych chi wedi
cael eich Cerdyn Mynediad ers amser hir, gall hyn fod yn 3, 4, neu 5 digid. Gall
y cardiau yma gynnwys #P, #T neu #V – PEIDIWCH â rhoi hwn yn y maes hwn, rhowch
y rhifau yn unig.
Sicrhewch hefyd
eich bod yn cyflwyno eich manylion yn union fel y maent yn ymddangos ar eich
cerdyn, yn enwedig eich enw, er enghraifft, Jonathan, nid Jon, neu
Thompson-Wright, nid Thompson Wright.
Beth yw'r
gwahaniaeth rhwng Cerdyn Mynediad a chofrestriad Mynediad Stadiwm Principality?
Mae Cerdyn
Mynediad yn ffordd gyffredinol o gyfleu eich gofyniad mynediad gyda sefydliadau
a systemau tocynnau yn y DU a thu hwnt. Gallwch brynu Cerdyn Mynediad am £15 am
3 blynedd.
Mae Cofrestru
Mynediad Stadiwm Principality yn ffordd rad ac am ddim o gyfleu eich gofynion
hygyrchedd pan rydych yn mynychu digwyddiadau yn Stadiwm Principality yn unig.
Fydd rhaid i chi ddilyn yr un broses o gofrestru am gerdyn Mynediad, ond
byddwch yn derbyn rhif digidol yn lle cerdyn ffisegol. Mae cofrestriad Mynediad
Stadiwm Principality yn para 3 blynedd, ond gallwch chi uwchraddio i Gerdyn
Mynediad llawn ar unrhyw adeg.
Pam mae'r
broses yn newid a sut mae hyn o fudd i mi?
Archebwch eich
tocynnau ar-lein: Unwaith
y bydd eich Cerdyn Mynediad yn weithredol, gallwch bori drwy ddigwyddiadau sydd
i ddod i Stadiwm Principality ac archebu tocynnau hygyrch yn uniongyrchol drwy
wefan e-docynnau
Stadiwm Principality.
Archebu yn
gyflymach ac yn hawsach:Nid oes angen i chi gysylltu â'n tîm yn arwahân i archebu tocynnau hygyrch.
Mae'r platfform ar-lein yn cynnig opsiynau clir ac y tocynnau sydd ar gael.
Nid oes angen
bellach i chi arddangos eich dogfennau: Mae'r system yn cynnig mwy o breifatrwydd, gan na
fydd angen i bobl anabl â gofynion mynediad gario dogfennau nac egluro'r
amgylchiadau i staff. Dim ond unwaith y bydd angen i chi roi gwybodaeth i dîm y
Cerdyn Mynediad, a fydd wedyn yn darparu eich cerdyn i chi.
Nid yw ein
hymrwymiad i hygyrchedd wedi newid. Mae ein tîm cyfeillgar yma o hyd i'ch
cefnogi os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych angen unrhyw cymorth. I
gael rhagor o gymorth, e-bostiwch customercare@wru.wales
I gael help a
chefnogaeth wrth wneud cais am eich cerdyn mynediad, ewch i dudalen cymorth y
cerdyn mynediad drwy glicio yma.