Pas Parc Yr
Arfau – Pecyn ar gyfer 2 Gêm Chwe Gwlad Guinness Menywod 2026
Rydym ar hyn o
bryd yn cynnig pecyn ar gyfer 2 gêm Chwe Gwlad Menywod sef Cymru v Ffrainc a
Cymru v Yr Eidal ym Mharc Yr Arfau.
Yn hytrach na
phrynu 2 gêm ar wahân, mae’r Pas Parc yr Arfau yn eich galluogi i brynu gêm
Cymru v Ffrainc a Cymru v Yr Eidal am bris gostyngedig.
Wrth brynu y Pas
Parc Yr Arfau byddwch yn arbed £5 y gêm!
Gweler isod am
restr o’r prisiau.
Ble a phryd
mae’r Bencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness Menywod 2026?
Mae’r gêm rhwng
Cymru v Ffrainc yn cael ei gynnal ym Mharc Yr Arfau ar 18 Ebrill 2026, gyda’r
gêm yn cychwyn am 15:35.
Mae’r gêm rhwng
Cymru v Yr Eidal yn cael ei gynnal ym Mharc Yr Arfau ar 17 Mai 2026, gyda’r gêm
yn cychwyn am 12:15.
Pryd mae’r
tocynnau ar werth ar gyfer Pas Parc yr Arfau ac ar gyfer y Gemau yn unigol?
Bydd y Pas Parc
yr Arfer ar werth ar y 5ed o Fedi 2025. Cliciwch yma i brynu eich
pas.
I brynu tocynnau
ar gyfer Cymru v Ffrainc neu Cymru v Yr Eidal yn unigol, bydd rhain ar werth ar
y 7fed o Hydref 2025.