Image Placeholder


Pryd a ble mae’r gêm Chwe Gwlad Guinness Menywod 2026 Cymru v Yr Alban?

Mae’r gêm Chwe Gwlad Guinness Menywod 2026 Cymru v Yr Alban yn cael ei gynnal yn Stadiwm Principality ar yr 11eg o Ebrill 2026, gyda’r cic gychwyn am 16:40.

 

Pryd mae tocynnau ar werth ar gyfer gêm Chwe Gwlad Guinness Menywod 2026 Cymru v Yr Alban?

Mae'r tocynnau ar gyfer gêm Chwe Gwlad Guinness Menywod 2026 Cymru v Yr Alban ar werth ar yr 20fed o Awst 2025.

Cliciwch yma i brynu'ch tocynnau.

 

Beth yw prisiau y tocynnau?

 Prisiau Tocynnau – Gêm Cymru v Yr Alban Menywod

 

            A

B

C

AFZ

Consesiynau

Cymru v Yr Alban

11/04/26

 

 

£20

 

£15

 

£10

 

£7.50

Dan 18 & Myfyrwyr

½ y Pris

Mae ffi ychwanegol archebu o £1 fesul tocyn a ffi dosbarthu  o £1 fesul trafodiad wrth y ddesg dalu.

 

Pryd fydda i'n derbyn fy nhocynnau?

Bydd tocynnau'n cael eu hanfon o leiaf 7 diwrnod cyn pob gêm trwy ein Ap Tocynnau Stadiwm Principality.

 

Ble gallaf brynu tocynnau ar gyfer Gêm Chwe Gwlad Guinness Menywod 2026 Cymru v Yr Alban? 

Gellir prynu tocynnau ar gyfer Gêm Chwe Gwlad Guinness Menywod 2026 Cymru v Yr Alban o'r rhestr isod o fanwerthwyr:

 -            Swyddfa Docynnau Ar-lein URC - www.wru.wales/tickets

-             Swyddfa Docynnau URC – Uwchben siop URC ar Heol y Porth

-             Eich clwb rygbi lleol



Gêm Chwe Gwlad Guinness Menywod 2026 Cymru v Yr Alban - Gwybodaeth Tocynnau Hygyrch

Mae Mynediad i Stadiwm Principality yn fwy cynwysedig gyda Cherdyn Mynediad

Rydym yn hapus i gyhoeddi ein bod yn gweithio gyda Nimbus Disability, trwy ddefnyddio eu technoleg Cerdyn Mynediad er mwyn sicrhau bod archebu tocynnau a mynediad i’r stadiwm yn fwy cynhwysol i gefnogwyr sydd â gofynion hygyrchedd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Cliciwch yma am gefnogaeth ar sut i wneud cais am gerdyn mynediad.

 

A fydd angen Cerdyn Mynediad neu Gofrestriad Mynediad Stadiwm Principality arnaf i brynu tocynnau hygyrch yn Stadiwm Principality i'r Gêm Chwe Gwlad Guinness Menywod 2026 Cymru v Yr Alban?

Ie, bydd angen cerdyn mynediad i archebu tocynnau hygyrch i ddigwyddiadau yn Stadiwm Principality. Gallwch wneud cais am gerdyn mynediad am ddim trwy glicio yma.

 

Sut gallaf gofrestru am Gerdyn Mynediad Stadiwm Principality?

Cliciwch yma i gofrestru am cerdyn Mynediad.

 

Rwyf eisoes yn ddeiliad cerdyn mynediad, sut alla i gysylltu fy ngherdyn?

I gysylltu'ch cerdyn mynediad presennol, cliciwch yma. Sylwch mai dim ond cerdyn mynediad y byddwch yn gallu cysylltu. Ni ellir defnyddio cofrestriadau mynediad a gyhoeddwyd gan leoliadau eraill neu ddarparwyr tocynnau. 

I gysylltu eich Cerdyn Mynediad bydd angen eich rhif cofrestru arnoch. Mae’r rhif yma fel arfer yn 6 digid a gellir dod o hyd iddo yn eich e-bost cadarnhaol. Os ydych chi wedi cael eich Cerdyn Mynediad ers amser hir, gall hyn fod yn 3, 4, neu 5 digid. Gall y cardiau yma gynnwys #P, #T neu #V – PEIDIWCH â rhoi hwn yn y maes hwn, rhowch y rhifau yn unig.

Sicrhewch hefyd eich bod yn cyflwyno eich manylion yn union fel y maent yn ymddangos ar eich cerdyn, yn enwedig eich enw, er enghraifft, Jonathan, nid Jon, neu Thompson-Wright, nid Thompson Wright.

 

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Cerdyn Mynediad a chofrestriad Mynediad Stadiwm Principality?

Mae Cerdyn Mynediad yn ffordd gyffredinol o gyfleu eich gofyniad mynediad gyda sefydliadau a systemau tocynnau yn y DU a thu hwnt. Gallwch brynu Cerdyn Mynediad am £15 am 3 blynedd.

Mae Cofrestru Mynediad Stadiwm Principality yn ffordd rad ac am ddim o gyfleu eich gofynion hygyrchedd pan rydych yn mynychu digwyddiadau yn Stadiwm Principality yn unig. Fydd rhaid i chi ddilyn yr un broses o gofrestru am gerdyn Mynediad, ond byddwch yn derbyn rhif digidol yn lle cerdyn ffisegol. Mae cofrestriad Mynediad Stadiwm Principality yn para 3 blynedd, ond gallwch chi uwchraddio i Gerdyn Mynediad llawn ar unrhyw adeg.

 

Pam mae'r broses yn newid a sut mae hyn o fudd i mi? 

Archebwch eich tocynnau ar-lein: Unwaith y bydd eich Cerdyn Mynediad yn weithredol, gallwch bori drwy ddigwyddiadau sydd i ddod i Stadiwm Principality ac archebu tocynnau hygyrch yn uniongyrchol drwy wefan e-docynnau Stadiwm Principality.

Archebu yn gyflymach ac yn hawsach:Nid oes angen i chi gysylltu â'n tîm yn arwahân i archebu tocynnau hygyrch. Mae'r platfform ar-lein yn cynnig opsiynau clir ac y tocynnau sydd ar gael.

Nid oes angen bellach i chi arddangos eich dogfennau: Mae'r system yn cynnig mwy o breifatrwydd, gan na fydd angen i bobl anabl â gofynion mynediad gario dogfennau nac egluro'r amgylchiadau i staff. Dim ond unwaith y bydd angen i chi roi gwybodaeth i dîm y Cerdyn Mynediad, a fydd wedyn yn darparu eich cerdyn i chi.

Nid yw ein hymrwymiad i hygyrchedd wedi newid. Mae ein tîm cyfeillgar yma o hyd i'ch cefnogi os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych angen unrhyw cymorth. I gael rhagor o gymorth, e-bostiwch customercare@wru.wales 

I gael help a chefnogaeth wrth wneud cais am eich cerdyn mynediad, ewch i dudalen cymorth y cerdyn mynediad drwy glicio yma