Mi fydd tocynnau hygyrch ar gyfer gemau URC ar gael i’w prynu cyn i’r tocynnau cyffredin gael eu gwerthu yn gyhoeddus .

Mi fydd y dyddiad y bydd tocynnau yn mynd ar werth yn ddibynol ar y gyfres/gêm.

Er mwyn prynu tocynnau hygyrch, gallwch gysylltu â Swyddfa Docynnau URC ar 02920 822432 neu wrth ymweld â’r Swyddfa Docynnau.

Mi fydd tocynnau cadair olwyn neu docynnau hygyrch ar gyfer pobl sydd â’r gallu i gerdded, yn cynnwys tocyn am ddim i ofalwyr.

Pwyswch yma am fwy o wybodaeth.