Mae deg o gadeiriau olwyn wedi eu darparu gan Invacare (DU) Ltd ar gael i gefnogwyr, er mwyn eich helpu i gyrraedd eich seddi yn ddi-ffwdan pan rydych yn cyrraedd y Stadiwm.

Ni fydd y cadeiriau olwyn ar gael i'w defnyddio yn ystod y digwyddiad, ac nid yw hi’n bosib llogi'r cadeiriau olwyn o flaen llaw chwaith.

Rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu gyda Shopmobility neu Bush Healthcare os ydych angen llogi cadair olwyn i’w defnyddio yn ystod y digwyddiad.

Pwyswch yma am fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau hygyrch.