Os ydych wedi cael eich
hysbysu bod eich seddi ar gael ac wedi eu cadw i chi, gallwch gael mynediad i
brynu'r tocynnau yma trwy eich cyfrif ar ein gwefan docynnau.
Pwyswch yma am ein
gwefan docynnau.
I fewngofnodi, pwyswch
ar y symbol person ar dop y sgrin.
Defnyddiwch eich e-bost a chyfrinair sydd yn
gysylltiedig â eich cyfrif URC a phwyswch ‘Sign in’.
Pwyswch ar y tocynnau sydd wedi eu cadw i chi,
ac ychwanegwch nhw i'ch basged i gwblhau'r broses talu.
Os ydych yn
cael unrhyw broblemau mewngofnodi i'ch cyfrif neu os nad oes unrhyw docynnau
wedi eu cadw i chi yn eich cyfrif, cysylltwch â’n tîm gwasanaethau cefnogwyr ar customercare@wru.wales
Ar ôl mewngofnodi, mi fydd y sgrin yn mynd yn ôl i’r brif
sgrin, ac mi fydd yna gylch coch yn hysbysu chi o docynnau yn eich cyfrif wrth
y symbol person.
Pwyswch ar y symbol person i weld eich tocynnau sydd wedi eu cadw i chi