Os ydych wedi prynu tocynnau yn uniongyrchol gydag URC unai trwy’r wefan, ar y ffôn neu wyneb yn wyneb yn swyddfa docynnau URC, gallwch uwchraddio tocyn plentyn i docyn oedolyn trwy gysylltu gyda’n swyddfa docynnau trwy ddanfon e-bost at customercare@wru.wales neu trwy ffonio 02920 822432.

Mi fydd rhaid i ni ganslo ac ad-dalu eich tocyn gwreiddiol i uwchraddio’r tocyn i un llawn pris oedolyn.

Nodwch, fydd rhaid i’r prynwyr gwreiddiol cysylltu gyda ni i uwchraddio tocyn.

Os ydych wedi prynu eich tocyn gan gwmni 3ydd parti, cysylltwch â nhw yn uniongyrchol.

 

Pwyswch yma am fwy o wybodaeth.