Ffioedd archebu – Digwyddiadau wedi eu rheoli can URC

Ar gyfer digwyddiadau URC yn Stadiwm Principality, mi all ffioedd archebu gael eu hychwanegu at docynnau sydd wedi eu prynu ar y we. Mi fydd ffioedd archebu yn cael eu hychwanegu fel y gwelir isod pan fydd hynny’n berthnasol ;

£1 y tocyn – Gemau Rhyngwladol URC - Haen 2, Dydd y Farn, Tîm o dan 20 Cymru, gemau cartref tîm Menywod Cymru a digwyddiadau cymunedol.

£3 y tocyn – Gemau rhyngwladol cartref URC - Haen 1

O ran digwyddiadau sydd wedi eu rheoli gan URC, ni fydd unrhyw ffioedd archebu yn berthnasol ar gyfer unrhyw docyn sydd wedi ei brynu wyneb yn wyneb o swyddfa docynnau URC neu wrth brynu'r tocynnau dros y ffôn.

Ffioedd archebu – Cyngherddau a digwyddiadau 3ydd parti

Ar gyfer digwyddiadau 3ydd parti, er enghraifft cyngherddau, mi fydd ffioedd archebu yn cael eu penderfynu gan hyrwyddwyr y digwyddiad a gall fod yn berthnasol i bob pryniant tocyn.

Mi fydd ffioedd archebu digwyddiadau 3ydd parti eraill yn ddibynnol ar natur y digwyddiad.

Aelodaeth Swyddogol

Ni fydd unrhyw ffioedd postio ar gyfer cofrestru aelodaeth newydd neu adnewyddu hen aelodaeth gan fod pris hwnnw’n cynnwys danfon y pecyn gwybodaeth.

Ffioedd Gweinyddu

Ar hyn o bryd, dim ond tocynnau digidol sy’n cael eu cynnig ar gyfer gemau rhyngwladol cartref URC. Bydd ffi ychwangegol o £1 am weinyddu pob tocyn . Os nad oes gennych ffôn clyfar ac wedi gwneud cais am docyn papur i’w gasglu ar ddydd y gêm, mi fydd y ffi o £1 dal yn berthnasol.