Sut y byddaf yn derbyn fy nhaliad?

 Mi fydd taliadau yn cael eu prosesu trwy PayPal, 7-10 dydd ar ôl y gêm.

Os nad oes gennych gyfrif PayPal, gallwch ddewis opsiwn arall i dderbyn eich arian trwy linc taliad.

Pan fydd y linc taliad yn cael ei ddanfon atoch, dilynwch y cyfarwyddiadau ar yr e-bost er mwyn creu cyfrif PayPal i dderbyn eich arian.

Sut allai olygu fy null taliad?

Ewch i'r Platfform Cyfnewid i Gefnogwyr a chliciwch ‘my account’

Image Placeholder

Gallwch wedyn bwyso ‘Payments’ fydd yn eich galluogi i ddewis taliad trwy PayPal neu linc taliad.


Image Placeholder


A yw hi’n bosib i mi werthu tocynnau os nad oes gennyf gyfrif PayPal?

Gallwch ddewis taliad trwy PayPal neu trwy linc taliad pan rydych yn rhoi eich tocynnau ar werth ar y platfform Cyfnewid i Gefnogwyr.

Mi fydd y linc taliad yn eich galluogi i greu cyfrif PayPal i dderbyn eich taliad.


A yw hi’n bosib i mi brynu tocynnau heb gyfrif PayPal?

Gallwch brynu tocynnau wrth ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd.


Pryd fyddai yn cael fy nhalu?

Mi fydd taliadau yn cael eu prosesu 7-10 dydd ar ôl y gêm. Os ydych wedi dewis taliad trwy linc, mi fydd y linc yn cael ei yrru i'ch cyfrif e-bost yr un dydd â’r diwrnod prosesu taliadau.


Oes yna ffi am werthu tocynnau?

Mi fydd yna ffi o 10% ar bob tocyn sydd yn cael ei werthu ar y platfform cyfnewid i gefnogwyr. Mi fydd hwn yn cael ei dynnu oddi-ar y taliad terfynol fydd yn ddyledus i chi.