Pam nad ydw i wedi derbyn cadarnhad trwy e-bost?

Mi fydd yr e-bost yma cael ei ddanfon atoch ar unwaith pan fyddwch yn cofrestru eich cyfrif. Sicrhewch eich bod yn cofrestru'r un e-bost ag sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif tocynnau gydag URC. Os nad ydych wedi derbyn e-bost i wirio eich cyfrif, edrychwch yn eich ffolder sothach/junk/spam.

Gallwch ond werthu tocynnau ar ôl i chi bwyso'r botwm ‘cadarnhau’ ar yr e-bost cadarnhad.


Pryd fydd fy nghofrestriad tocynnau yn cael ei gadarnhau?

Mae’n bosib gwerthu tocynnau yn syth ar ôl eu prynu gan URC. Sicrhewch eich bod yn defnyddio'r un cyfeiriad e-bost âddenyddioch i brynu'r tocynnau ar wefan tocynnau URC. 

Dim ond tocynnau pris llawn all gael eu gwerthu, ac nid yw hi’n bosib i chi werthu tocynnau hygyrch na thocynnau roddwyd am ddim fel rhodd gan URC.

Oes rheswm pam nad yw fy nghyfrif wedi ei wirio?

Os ydych yn derbyn tocynnau â roddwyd am ddim fel rhodd gan URC - ni allwch werthu’r rhain ar y platfform cyfnewid cefnogwyr gan nad oes modd gwerthu tocynnau o’r math yma am elw.

Pam nad ydw i wedi derbyn neges destun i wirio fy nghyfrif?

Gwnewch yn siwr eich bod wedi defnyddio'r rhif ffôn cywir ar eich cyfrif. Mae rhaid i’r rhif ffôn fod yr un fath â’ch rhif ar eich cyfrif e-docynnau.



Pam nad yw fy nghyfrinair yn cael ei adnabod?

 Os ydych yn defnyddio'r cyfrinair anghywir fwy na dwy waith, mi fydd eich cyfrif yn cael ei gloi a bydd yn rhaid i chi gysylltu â 'Seat Unique' yn uniongyrchol i’w ddatgloi.

Ceisiwch ailosod y cyfrinair os ydych eisoes wedi defnyddio'r cyfrinair anghywir 2 waith - i osgoi cloi eich cyfrif.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.