Faint o docynnau allai werthu?

Nid oes unrhyw gyfyngiad ar y nifer o docynnau y gallwch eu gwerthu ar yr un pryd.


Oes cyfyngiad ar y pris y gallaf werthu tocynnau?

Nid oes unrhyw gyfyngiad ar y pris gallwch werthu tocyn.

Sut allai werthu tocyn?

Mi fydd rhaid i chi greu cyfrif ar y platfform Cyfnewid i Gefnogwyr a phwyso 'Gwerthu Tocynnau'.

Mi fydd rhaid i chi wedyn ddewis y digwyddiad  yr ydych yn gwerthu'r tocyn ar ei gyfer gan nodi’r bloc, rhes a rhif y sedd. Gallwch wedyn ychwanegu mwy o seddi yn yr un rhes neu gofrestru gwerthiant o docynnau newydd.


A yw hi’n bosib i mi addasu pris tocynnau ar ôl i mi eu cofrestru ar werth?

Gallwch addasu prisiau’r tocynnau ar dudalen tocynnau byw eich cyfrif.

Gallwch olygu pris pob tocyn sydd wedi ei gofrestru trwy’r dudalen hon. Neu gallwch bwyso'r botwm golygu wrth yr eicon bin.

Cofiwch arbed unrhyw newid ar ôl ei olygu.



A yw hi’n bosib i mi gymryd fy nhocynnau oddi ar y platfform cyfnewid dros dro?


Gallwch gymryd eich tocynnau oddi ar y platfform cyfnewid dros dro trwy bwyso'r botwm i’r dde o bris y tocyn. Pan fydd y botwm yn llwyd, fydd eich tocynnau ddim ar gael i’w prynu a gallwch ail gofrestru eich tocyn i gael ei werthu trwy bwyso’r botwm eto.


A yw hi’n bosib i mi ddileu fy nhocynnau rhag cael eu gwerthu?


Pwyswch ar yr eicon bin i’r dde o’r botwm tocynnau byw ac mi fydd y tocynnau yn cael eu dileu o’r platfform cyfnewid cefnogwyr.


Sut allai ddychwelyd fy nhocynnau ar ôl iddynt werthu?

Unwaith y bydd eich tocynnau wedi cael eu gwerthu, mi fydd yn rhaid i chi drosglwyddo'r tocynnau yn ôl  i URC trwy ap Tocynnau Stadiwm Principality. Mi fydd y rhif ffôn i drosglwyddo'r tocynnau yn cael ei ddanfon i'ch e-bost. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Nid oes gennaf ffôn symudol – a yw hi dal yn bosib i mi werthu tocynnau?


Os nad oes gennych ffôn symudol ac os ydych wedi cytuno efo’r swyddfa docynnau i dderbyn eich tocyn mewn ffordd wahanol , mae’n dal yn bosib i chi gofrestru i werthu tocynnau a gall  URC drosglwyddo'r tocynnau ar eich rhan. Nodwch y bydd yn rhaid cael mynediad i ffôn symudol er mwy gwirio eich cyfrif ar y we.



A yw hi’n bosib i mi werthu tocynnau os nad wyf wedi eu derbyn ar yr ap?

Mae’n bosib i chi werthu tocynnau ar y Platfform Cyfnewid i Gefnogwyr os nad ydynt wedi cael eu danfon i'ch ap tocynnau Stadiwm Principality.


A yw hi’n bosib i mi werthu tocynnau consesiwn?

Gallwch werthu tocynnau consesiwn ac mi fydd manylion y tocyn yn ymddangos ar y platfform cyfnewid  i gefnogwyr fel y gall y prynwyr posib weld yn union pa fath o docyn sydd ar werth.

A yw hi’n bosib i mi werthu tocynnau â brynais gan glwb rygbi?

Yn anffodus, dim ond y prynwr gwreiddiol all werthu tocyn ar y Platfform Cyfnewid i Gefnogwyr, felly dim ond y clwb yn uniongyrchol all werthu'r tocynnau hyn.


Cyfnod gwerthu tocynnau

Gall tocynnau gael eu gwerthu hyd at 48 awr cyn y gêm. Wedi’r cyfnod yma, mi fydd y tocyn yn cael ei ddileu o’r platfform. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ; Official Supporter Exchange (1).pdf