Os ydych angen cymorth i ddod i mewn i’r Stadiwm, gofynnwch am gymorth ein stiwardiaid hygyrch wrth y giât. Byddant yn hawdd eu hadnabod gan y byddant yn gwisgo festiau gwyn.

Mi fydd ein stiwardiaid hygyrch yn gallu eich harwain drwy’r mannau diogelwch - trwy giât ochr y mannau sganio – ac yna at eich bloc perthnasol.

Mi fydd mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn ar gael hefyd os ydych eu hangen.

Er mwyn cael cymorth wrth adael y Stadiwm, gofynnwch i’r stiward fydd wrth fynediad eich bloc. Mi fydd y stiwardiaid hygyrch ar gael i ddod atoch i’ch helpu i adael y Stadiwm.

Nodwch, mi all y broses yma gymryn cryn dipyn o amser os bydd yr holl gadeiriau olwyn argyfwng yn cael eu defnyddio.

Pwyswch yma am fwy o wybodaeth.