Mi fydd pob tocyn digidol ar ap tocynnau Stadiwm Principality yn cynnwys côd QR fydd yn cylchdroi, a bydd angen i hwn gael ei sganio i gael mynediad i’r stadiwm.

Mi fydd y côd yn weithredol 48 awr cyn y gic gyntaf. Er mwyn cadw’r tocyn yn ddiogel, bydd yr ap yn dangos y neges ‘QR Code Will Appear Here’ cyn i’r côd ymddangos.

Bydd y côd QR yn ymddangos os ydych yn agor yr ap o fewn 48 awr i gic gynta’r gêm trwy gysylliad â’r we.

Gallwch drosglwyddo’r tocynnau cyn i’r côd QR ymddangos yn yr ap.

Pwysig : Peidiwch â cheisio cymryd sgrin-lun o’ch tocyn ar eich ffôn, oherwydd gall hyn wneud eich tocyn yn annilys.