Mi fydd tocynnau ar gyfer digwyddiadau URC yn cael eu danfon atoch yn ddim hwyrach na 7 dydd cyn y digwyddiad.

Os nad ydych wedi derbyn eich tocynnau o fewn 7 dydd cyn y digwyddiad, cysylltwch â’n tîm gwasanaethau cefnogwyr trwy ddanfon e-bost at customercare@wru.wales. Sicrhewch eich bod yn cynnwys cymaint o wybodaeth â phosib - er enghraifft ;

            Yr e-bost â defnyddiwyd i brynu’r tocynnau

            Y rhif ffôn ar eich cyfrif tocynnau

            Manylion lleoliad y seddi ( Bloc, rhes, rhif set)

            Cyfeirnod yr archeb

            Y gêm a dyddiad y gêm

Os ydych angen cymorth pellach ar ddydd y digwyddiad, mi fydd y tîm gwasanaethau cefnogwyr ar gael i’ch helpu yn swyddfa docynnau URC. ‘Rydym wedi’n lleoli i fyny’r grisiau yn siop URC ar Heol y Porth.