Pwysig: Mae’r wybodaeth isod yn ddilys ar gyfer unrhyw docynnau sydd wedi eu prynu yn uniongyrchol trwy swyddfa docynnau URC. Os ydych wedi prynu eich tocynnau gan unrhyw werthwyr swyddogol arall , er enghraifft clwb rygbi lleol neu gwmni 3ydd parti, cysylltwch gyda nhw yn gyntaf.

Pan rydym yn danfon tocynnau digidol at eich cyfrif ap tocynnau Stadiwm Principality, mi fydd y tocynnau yn cael eu danfon at y rhif ffôn sydd yn gysylltiedig â’ch cyfrif ar wefan docynnau URC.

Er mwyn derbyn eich tocynnau ar yr ap - mi fydd yn rhaid i’r rhif ffôn ar eich cyfrif ap tocynnau Stadiwm Principality gyfateb â’r rhif ffôn sydd ar eich cyfrif.

Os ydych wedi prynu'r tocynnau ac mae’r rhif ffôn ar eich cyfrif yn anghywir, cysylltwch â’n tîm gwasanaethau cefnogwyr, a byddant yn gallu’ch helpu chi i roi’r rhif cywir ar eich cyfrif - er mwyn danfon eich tocynnau atoch.

Os yw eich rhif ffôn yn anghywir , dilynwch y camau isod i gysylltu gyda ni ;

  • Nodwch, ni allwn newid unrhyw fanylion ar unrhyw gyfrif tocynnau heb ganiatâd y prynwyr gwreiddiol. Er mwyn sicrhau bod manylion yn gallu cael eu newid, sicrhewch eich bod yn cysylltu â ni gyda’r cyfeiriad e-bost sydd yn cyfatebu â'ch cyfrif tocynnau.
  • I gysylltu â ni, danfonwch e-bost at customercare@wru.wales gyda gwybodaeth y digwyddiad /gêm, manylion lleoliad y sedd (bloc, rhes a rhif seddi) a'r rhif ffôn cywir sydd wedi ei gofrestru gydag ap tocynnau Stadiwm Principality. Ar ôl danfon yr e-bost yma, mi wnawn i gysylltu â chi eto os ydyM angen unrhyw wybodaeth bellach.
  • Rydym yn anelu at ymateb o fewn 48 awr.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich e-bost, mi fydd eich tocynnau digidol yn cael eu diweddaru ac yn cael eu danfon at y rhif cywir.