Image Placeholder

Pryd allai brynu tocynnau fel aelod swyddogol?

Mi fydd tocynnau ar gael i aelodau swyddogol o 10yb, Ddydd Mawrth y 19eg o Fedi 2023.

Image Placeholder

Faint o docynnau allai brynu ?

Mi allwch brynu hyd at 8 tocyn i bob gem.

Sut allai brynu tocynnau?

Cliciwch yma ar gyfer gwefan docynnau URC

Mi fydd yn rhaid i chi fewngofnodi i’ch cyfrif trwy ddefnyddio eich e-bost a’ch cyfrinair.


Gallai brynu tocynnau i gefnogwyr sydd ddim yn aelodau swyddogol?

 

Mi fydd angen aelodaeth swyddogol i brynu tocynnau o fewn y cyfnod blaenoriaeth.

Sut allai fod yn aelod swyddogol?

 

Cliciwch yma i brynu aelodaeth swyddogol

Fel aelod swyddogol, oes yn sicrwydd y gallaf brynu tocynnau?

 

Mi fydd tocynnau ar gael yn dibynnu ar y galw.  Nid oes sicrwydd y bydd tocynnau ar gael i aelodau- er y bydd aelodau swyddogol yn cael blaenoriaeth cyn i’r tocynnau fynd ar werth i’r cyhoedd.


Oes ffioedd i aelodau swyddogol i brynu tocynnau?

Does dim ffioedd archebu i aelodau swyddogol. Ond mae pob gwerthiant tocyn yn cynnwys ffi tocyn digidol o £1.
Mi fydd tocynnau ar gael yn ddigidol trwy ap tocynnau Stadiwm Principality yn agosach at amser y gemau.


Oes cyfleoedd i fod yn fasgot neu’n gludwr pêl yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Dynion 2024?

Mi fydd y tîm aelodaeth yn cysylltu ag aelodau iau ynglŷn ag unrhyw gyfleoedd fydd ar gael.